Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hanes olaf hithau, wedi siarad am yr Iesu a'i hanadl olaf.

Mewn awr hamddenol, ryw dro, cesglais lythyrau caru diddorol. Yn eu mysg yr oedd un oddi wrth Nathaniel, mab Daniel Rowland, at ferch Hywel Harris. Y mae yma air o'i hanes hithau, unig blentyn eu gofal, ar waelod y garreg.

Cwsg yn hyfryd, apostol Cymru,—

"Cwsg i lawr yn eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae;
Mi gâi godi i'r lan i fywyd,
Sy'n dragwyddol yn parhau."

Cawsom fwynhau golygfeydd prydferth ac awel nawnol yn suo dros gae o feillion peraroglus wrth gerdded y filltir sydd rhwng Talgarth a Threfeca.