Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

— enillodd "Teulu Trefeca" barch ac edmygedd rhai wawdiai, ar y cyntaf, y syniad o godi mynachlog yn Nhrefeca. Ebe Williams Pant y Celyn,

"Pam y treuliaist dy holl ddyddiau
I wneud rhyw fynachlog fawr,
Pan y tynnodd Harri frenin
Fwy na mil o'r rhain i lawr?
Diau buasit hwy dy ddyddiau,
A melysach fuasai'n 'nghan.
Pe treuliasit dy holl amser
Yng nghwmpeini'r defaid man."

Nid yn aml y cofir mai ychydig o'i oes roddodd Hywel Harris i bregethu. Cwestiwn ei frodyr oedd, -

"Pam y llechaist mewn rhyw ogof,
Castell a ddyfeisiodd dyn.
Ac anghofiaist y ddiadell
Argyhoeddaist ti dy hun?"

Ond ffurfio "teulu," tebyg, i'r eglwys yn adeg yr apostolion, oedd ei amcan ef; a gwastraffodd ar Drefeca y llafur yr oedd holl Gymru yn dyheu am dano, —

"Ai bugeilia cant o ddefaid,
O rai oerion, hesbion, sych,
Ac adeilo iddynt balas
A chorlannau trefnus gwych,—
Etyb seinio pur Efengyl,
Bloeddio'r Iachawdwriaeth rydd,
O Gaerlleon bell i Benfro,
O Gaergybi i Gaer Dydd?"

Dyma ni'n troi o'r ffordd, ar hyd rhodfa trwy gae gwair, at wyneb y coleg. O'i flaen y mae coed bytholwyrdd lawer; ac y mae golwg henafol