Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Fychaniaid. Y mae darnau o brydyddiaeth Gwerfyl yn nofio ar gof gwlad eto. Gwyr pawb am yr hen frenhinwr pybyr Rowland Fychan, cyfieithydd yr Ymarfer Duwioldeb. Ond gwyr yr efrydydd am aml Fychan arall hyddysg mewn cywydd ac englyn.

Wrth rodio'r hen fynedfa i fyny at Gaer Gai, er cymaint o feddyliau ddaw am hanes ein cenedl, rhaid syllu ar fawredd rhyfeddol y fro. Y mae cefn mawr llwm yr Aran tuag atom, y mae'r Garneddwen yn gorwedd yn isel rhwng ei chwiorydd cawraidd, a gwga olion hen gastell Carn Dochan oddi ar gopa craig serth ysgythrog ar ein cyfer. Oddi tanom cwsg dyfroedd gloyw Llyn Tegid, ac ar ein cyfer, dros y dyŵr, y mae bryniau gwyrddion uchel groesid gynt gan ffordd Rufeinig. Mae'r gerddi'n aros ar y llecyn heulog, ac y mae pantle'r ffos yn amlwg; ond ni chlywais erioed hanes cloddio i chwilio am drysorau neu feddau y Rhufeinwyr fu yma gynt.

Y tŷ adeiladodd Rowland Fychan, ond wedi ei atgyweirio ymron drwyddo, sydd yno'n awr. Y mae geiriau yr hen frenhinwr selog wrth ben y drws,

"Rho glod i bawb yn ddibrin,
A char dy frawd cyffredin;
Ofna Dduw, cans hyn sydd dda,
Ac anrhydedda'r brenin."