Tudalen:Cartrefi Cymru Owen Morgan Edwards.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y mae'n sicr mai'r awydd am ryddid cydwybod, — yr awydd gafodd John Penri'n ferthyr iddo, — a roddodd fod i'r weriniaeth fawr honno. Ond nid am yr hyn a wnaeth Penri i'r Weriniaeth nas gwelsai ond trwy ffydd, nid am hynny y meddyliwn wrth ddisgyn yng ngorsaf Llangamarch ym mis Gorffennaf diweddaf, eithr am yr hyn a wnaeth dros Gymru, cyn rhoddi ei fywyd ieuanc i lawr drosti am bump o’r gloch y prynhawn, ar y nawfed dydd ar hugain o Fai, 1593.

Y mae ardal Llangamarch yn un o'r ardaloedd mwyaf mynyddig yng Nghymru, er nad yw Mynydd Epynt a mynyddoedd Aber Gwesin mor uchel â’u brodyr sy'n sefyll rhyngddynt a gwynt ac eira'r gogledd. Wrth fynd tua Llangamarch o Fuallt yr oeddem yn dringo i fyny o hyd, yng nghyfeiriad y mynyddoedd sy'n derfyn rhwng dyffrynnoedd y Gwy a dyffrynnoedd y Tywi. Teithiem i fyny dyffryn yr afon Dulas, un o ganghennau’r Gwy; o boptu i ni yr oedd rhes o fynyddoedd, a gwlad fryniog rhyngddynt, a thai ar y bryniau. Dyma'r trên yn aros ar lethr y dyffryn, mewn man cul arno. Ar y llaw dde y mae eglwys ar ochr y bryn, yr eglwys lle mae claddfa Cefn Brith, a'r eglwys lle'r huna Theophilus Jones, hanesydd Brycheiniog. I lawr oddi tanom, ar y chwith, y mae'r Dulas dryloyw ond yn rhy bell i lawr i ni