Tudalen:Catia Cwta.djvu/2

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CATIAU CWTA

Dyma gyfrol i'ch diddanu mewn dyddiau blin. Gŵyr pawb am ddawn Sarnicol i lunio epigram. Y mae ei ergyd bob amser yn sicr a di-feth. Clywyd ail-adrodd ei epigramâu mewn cant a mil o areithiau. Dyma stoc newydd i'n hareithwyr! Anela ei fwa yn syth at galon. Rhagrith, ond nid oes wenwyn ar ei saeth. Y mae'r ffisig ambell waith yn chwerw, ond ni ddylai beri selni i neb!

Dylai fod croeso mawr i gyfrol o'r math yma, yn enwedig yng nghanol difrifoldeb yr amseroedd hyn.