Duw a'r saint a'i troes ef,
O'r frwydr ef a'i wyr adref.
Wrth Wyn naw cannyn a'i car,
A Gwyn hefyd Gwenhwyfar.
Ofnus fyth fu'r fynwes fau,
Er's deufis hyd nos Difiau.
A Threfor, neithwyr afiach;
A Swydd y Waun sydd yn iach;
Huno a gais hên a gwan,
Hun wellwell o hyn allan.
Hun y gwaed hono a gaf,
Hiraeth hagr hwyr y'th ddygaf.
CYWYDD I ARGLWYDD HERBERT.
Tri llu ddaeth i Gymru gynt:
Trwy Wynedd y trowenynt.
Llu'r Pil, llu'r Arglwydd Wiliam;
Llu Fepwnt, bu hwnt baham?
Teirffordd hawdd; tir Offa hen:
Siwrnai Wiliam, Sarn Helen.
Arglwydd Herbert a'th gerti;
A'th lu, Duw a'th lywio di!
Gwlaw gynt a gai lu ac ost:
Hindda weithian pan ddaethost.
Dewiniais y cait Wynedd,
A dwyn Mon i'r dyn a'i medd.
Berw Lloegr! bwrw ei llygaid:
O ceisiech Harddlech ei caid.
Chwedl Bonfras a g'as i gyd,
Blaenfain fu i'r bobl ynfyd.
Chwedl blaenfain, bobl druain! dro:
Bonfras, Arglwydd ar Benfro.
Ba well castell rhag cysteg;
Pan fwriwyd wal Penfro deg?
Bwriaist ergydiaist godwm:
Ben carreg cynnen i'r cwm.
Ni ddaliawdd ei chlawdd uch lan,
Uwch Harddlech mwy na chorlan.
Ni'th ery na thy na thwr;
Na chan-caer mwy na chwncwr.
Tair cad aeth o'r teirgwlad tau;
Trwy Wynedd fal taranau.
Tair plaid yn gapdeiniaid yn,
Teirmil a nawmil yn Iwmyn.
Dy frodyr milwyr y medd;
Dy genedl i doi Gwynedd.
Dy werin oll dewrion ynt,
Drwy goedydd dreigiau ydynt.
Dringai lle nid elai da;
Dy rwyddfarch dor y Wyddfa.
Tores dy wyr, tair ystal:
Trwy Wynedd a'r tir anial.
Tros greigiau mae d'olau di:
Tir ar y gwnaent Eryri.
Od ennynaist dân ennyd:
Trwy ladd ac ymladd i gyd;
Dyrnod anufudd-dod fu,
Darnio Gwynedd a'i dyrnu.
O bu'r tir, Herbert wrawl,
Heb gredu fal y bu Bawl;
E fu ar Bawl feiau'r byd,
E ddifeiodd ei fywyd.
Chwithau na fyddwch weithian,
Greulon wrth ddynion â thân.
Na ladd weilch a wnai wledd yn
Ngwynedd, fal Pedr yngwenwyn.
Na fwrw dreth ar Fôn draw:
Ni aller ei chynnulliaw.
Na friw Wynedd yn franar:
Na'd i, Fôn fyned ar får.
Na'd y gweiniaid i gwynaw,
Na brad na lledrad rhag llaw.
Na'd trwy Wynedd blant Rhonwen,
Na phlant Hors yn y Flint hên.
Na'd f'arglwydd swydd i un Sais;
Na'i bardwn i un bwrdais.
Barna'n iawn, brenin o'n iaith:
Bwrw'n tân ein braint uniaith.
Cymer o wyr Cymru 'rowron;
Bob cwnstabl o Fenstabl i Fon.
Dwg Forganwe a Gwynedd;
Gwna'n un o Gonwy i Nedd.
O digia Lloegr a'i dugiaid:
Cymry a dry yn dy raid.
CYWYDD YN DANGOS FAL Y BU YN MAES MAMBRI.
Dawns o Bowls! doe'n yspeiliwyd!
Dwyn yr holl dynion i'r rhwyd.
Dawns gwyr dinas y gwarhai;
Dawns y ieirll, doe'n asswy rai.
Duw-Llun y bu gwaed a lladd;
Dydd ymliw, diwedd ymladd.
Duw a ddug y dydd Dduw Iau;
Iarll Dwywent a'r holl deiau.
Marchog a las Dduw Merchyr,
Mwy i'w ladd na mil o wýr.
Syr Rissiart in' sai'r Iesu:
Wrtho er lladd Northwyr llu.
Duw-Mawrth gwae ni am Domas,
Duw-Llun gyd a'i frawd y llas.
Dwyn yr Iarll a'i bedwar-llu,
Dydd y farn, anrhydedd fu.
Arglwydd difwynswydd Defnsir;
A ffoes, ni chaffas oes hir.
Bradwyr a droes, brwydr a drwe;
Banbri i'r Iarll o Benbrwc.
Caed drygcin am y drin draw,
Carliaid a wnaeth y curwlaw.
Ymladd tost am laddiad hwn;
Awn ar hynt i Norhantwn.
Awn oll i ddial ein iaith:
Ar ddannedd y Nordd uniaith.
A dyludwn hyd Lydaw,
Dan draed y cyffredin draw.