Gwên rwydd fel lliw gwawn ar rew, |
}}
{{c|—IOLO GOCH, a'i cant, medd Ysgrif lyfr Doctor Davies o Fallwyd.
CYWYDD MARWNAD TUDUR AB GRONW, O BENMYNYDD, MON.
Y gwr hwn ydoedd dad-cu i Syr Owain Tudur, yr hwn a briododd Catharine, gweddw y Brenin Harri y Pummed; o'r hon briodas yr hanodd Harri y Seithfed. Bu farw Tudur ab Gronw yn y flwyddyn 1315.
Clywais doe i'm clust diau,
Canu corn cyfeiliorn cau;
O Fair fam y gweddiorn!
Pa beth yw y cyfryw gorn?
Marw-chwedl, pen cenedl coeth,
Tudur arf awch-ddur wych-ddoeth.
Ni furniais[1] ddim o'i farwnad
Fychan, marchog mudlan mad.
Chwerw iawn genyf chwareu orn;[2]
Cydgerdd rhwng cloch ac udgorn.
Galargyrn a melldyrn Môn,
Gogleisio Beirdd gwag leision;
Pa dwrw yw hwn gwn ganoch,
Pa ymffust[3] i'm clust fel cloch?
Pa waeddi, pwy a wyddiad[4]
Yw hwn a glywwn i'n gwlad?
Ubain,[5] a llefain rhag llid,
Am y gwr mwya gerid.
Cael i'm pwyll, ni's celaf pwy,
Calon doethion Tindaethwy.
Llygrwyd Môn myn llaw egryn,[6]
Llygrwyd oll, lle gorau dyn.
Llygrwyd Cymru gwedi gwart,[7]
Llithriced oedd llwyth Rhicart.
Dwyn llew Bryn byrddau dan llaw,
Dadwreiddio ei dy drwyddaw:
Dyrnod pen hyd y 'menydd,
Ar dlodion gwlad Fon a fydd;
Dygn ymchwedl dwyn hoedl hardd,
A gwaeth, dwyn brawd-faeth bryd-fardd.
Llywiodd Wynedd, llaw ddinag,
Llas pen Mon wen, mae yn nag;
Beth, o daw heibiaw hebom,
I'r Traeth Coch lynges oer drom?
Pwy a lydd[8] werin (pŵl ym),
Llychlyn a'u bwyill awchlym?
Pwy a gawn piau Gwynedd?
Pwy a ddyrchaif glaif[9] neu gledd?
Gan farw fy ngharw rhugl.[10]
Ffyniant hil Naf Bryn ffanugl,[11]
Ac oesawr oedd fawr ei fraich;
Yswain wayw llithfrain, llythyr-fraich;
Asawr gwlad fawr golud fu;
Yswain brwydr sy'n ei brydu.
Ffelaig[12] ysgythr-ddraig uthr-ddrud,
A phen Mon rhag ffo na mud.
Dillyn Môn frehuon"[13] fro,
Dealldai bwyll delld ebilldo.
Gwyrenig[14] câr pwyllig pell,
Cartre'r cost carw Trecastell
Gwae'r Deau rhaid maddeu medd
Gweddw iawn, gwae ddwy Wynedd!
Gwae'r ieirch mewn llaneirch mae'n llai,
Gwae'r ceirw, ddwyn gwr a'u carai!
Gwae finnau heb gyfannedd,
Gweled bod mewn gwaelod bedd;
Anhunedd oer iawn henyw,
O rô a phridd ar ei ffriw,
Nid oedd ef dra chynefin,
Ag oer wely gwedi gwin.[15]
CYWYDD I'R LLAFURWR
Y mae ein Bardd yn y Cywydd isod yn rhoddi darluniad tra naturiol o'r Arddwr;-"Y Llafurwr;" neu, y dosbarth ammaethyddol yn ei oes ef. Wedi rhagymadrodd byr, efe a ddarlunia y dosbarth yn dwyn nodwedd grefyddol, yn ol synied yr oes Babaidd hono am grefyddolder,-yn ofalus am dalu ei "Offrwm
a'i ddegwm i Dduw." Yn ganlynol, efe a'i darlunia