Fe ruai bwystfilod, a'r nos wnâi dywyllu,
Tra 'r dwfr yn ei wyneb a'r coed yn ei gefn;
Yng nghaban y coediwr fe syrthiodd i gysgu,
Ac yno breuddwydiodd ei freuddwyd drachefn.
Fe welai Frythoniaid, Cymraeg wnaent lefaru,
Adroddent eu hanes, deallai bob un.
Deffrôdd yn y dwymyn, bu farw gan ofyn,
"Pa le mae 'r hen Gymry, fy mhobol fy hun?"
MAES CROGEN BORE TRANNOETH.
Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae tŷ fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Ac ar y llechwedd, yr ochr arall i'r afon, y mae Castell Crogen, yr hwn a adwaenir yn awr dan yr enw Castell y Waun. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owain Gwynedd, a milwyr Harri yr ail. Yr oedd Harri wedi ei orfodi i ddychwelyd i'w wlad ei hun ddwywaith o'r blaen, ond i ymosod drachefn ar Gymru fe grynhodd ei holl rym milwrol o Ffrainc a Flanders, yn gystal ag o holl wledydd Lloegr. Yr oedd ganddo berffaith hyder o barth llwyddiant y rhyfelgyrch hwn. Yr oedd ei fyddin yn awchus am fuddugoliaeth, a sychedig am ymddial hyd yr eithaf. Arweiniwyd hwy gan Harri i gymydogaeth Croesoswallt, er mwyn ymosod yn gyntaf ar diriogaethau Owain Gwynedd, y galluocaf o'r tywysogion Cymreig. Yn y cyfamser, nid oedd y Cymry yn segur, ond ymunasant i'r frwydr y tro hwn yn well nag ond odid un amser. Penderfynasant gyfarfod oll yng Nghaer Drewyn. Llifodd cadernid Gwynedd yno o dan Owain. Daeth Owain Cyfeiliog, Madog ap Meredydd, a gwŷr Powys, sef Sir Amwythig, i'r un lle. Dygodd dau fab Madog ap Idner wŷr y wlad, a orwedd rhwng afon Gwy a'r Hafren. Gwersyllodd Harri o dipyn i beth yng nghoed Eflo, a glannau afon Ceiriog. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin— ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i. O leiaf, dyna y traddodiad. Mae haneswyr yn gyffredinol yn cyfleu y frwydr fu rhyngddynt yn ymyl Crogen. Gweler "Cofion Dyfrdwy," gan Meudwy Môn, yn y "Traethodydd" am 1855, tudalen 366. Gorfu i Harri droi yn ol y drydedd waith, ar ol ymladdfa Crogen, ond i'r