Tudalen:Cenadon Hedd.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGDRAETH.

ANWYL DDARLLENYDD,

GAN fod yr ysgrythyr yn sicrhau y bydd coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig, wele fi yn cyflwyno i'ch sylw amryw o honynt ar unwaith. Nid oedd un o honynt heb ryw hynodrwydd ynddo. Gresyn mawr fod hanes bywydau dynion da a defnyddiol yn myned i ebargofiant. Yr hyn a'm cymhellodd i ymgymeryd â'r gwaith hwn, oedd fod bagad o ddynion cyhoeddus oddiar ddechreuad y Methodistiaid yn Swydd Gaerfyrddin heb un gair o son am danynt wedi ymddangos trwy yr argraff-wasg hyd yn hyn. Yr wyf yn gwybod fod amryw o'm brodyr yn y Sir yn gymhwysach na myfi at hyn o orchwyl. Ond gan nad oeddwn yn canfod neb yn cyfodi ati, penderfynais i anturio i'r maes fy hun, a gobeithiaf y bydd i ryw frawd eto, yn mhen rhyw ysbaid o flynyddoedd, i wneuthur rhyw beth cyffelyb. Gwel y darllenydd fod hanes dau neu dri o wrthddrychau ein sylw wedi eu gosod yma yn agos fel y maent wedi ymddangos yn barod gan eraill mewn cyhoeddiadau misol er ys rhai blynyddoedd yn ol. Hwyrach y byddai eu casglu oll yn un llyfr yn fwy buddiol,