Prawfddarllenwyd y dudalen hon
DOE
O I un a gladdwyd lun a goleddwn,
Yn unig, anniddig yr heneiddiwn
Dan frithliw'r gorffennol a addolwn.
Eilwaith ein nef a welwn-fel carn lwyd
Annedd a chwalwyd, ond ni ddychwelwn.
DAIL YR HYDREF
TARIANT, lu syn, uwch y ddôl ddifoliant
Yn dorf allwynig lle darfu lloniant.
Yn nwyster rhyw angerdd tlws y trengant,
A fflam eu lliwiau yn cynnau ceunant.
Gleiniog hyd gwymp y glynant-wrth lwyni;
Cain eu geni, a'u tranc yn ogoniant.
Y LLOSGFYNYDD
HEN ffwrn naturiol, uffern y tiroedd,
A'i chorun ufel yn cochi'r nefoedd ;
Mygdwll yr uchder, pair yr aberoedd
A lam yn oddaith o le mynyddoedd.
Is ei goelcerth, mae'r nerthoedd—a dry'n ôl
Her ei dân ysol, gladdwr dinasoedd ?