Tudalen:Cerddi Eryri.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CAN Y BARDD WRTH FARW.

Ton—Llwyn On.

Gwnewch imi feddrod wrth ffrydlif y mynydd,
Na cherfiwch un linell i nodi fy hynt:
Ac yno telored glâs donau'r afonydd
Eu cerddi yn gymhlith â chwiban y gwynt.
Na chlywer un Och! lle mae'r prydydd yn huno;
Na choder un cofnod i ddangos y fan;
Yno na weler un serchawg yn wylo,
I dori â'i dolef dawelwch y lan.

I bydru fi dodwch heb gwynion na galar,
Diamdo, dienw, ac unig fy ngwedd;
Na dd'wedwch fy mod i mor drist ac edifar
Wrth deithio i dawel ystafell y bedd.
Pan ddychwel y Gwanwyn uwchben fy ngorweddle
Pored y milyn dywarchen fo gwerdd;
Pan chwifia y grug yn awelon y bore,
Adar y moelydd a ganant fy ngherdd.

Iesu, fy Nuw! yn y preseb a rwymwyd,
Maddeu fy nghamwedd—tro drallod yn hedd;;
Ti'r hwn dros ddyn pechadurus groeshoeliwyd,
Cofia fy lludw yn nghilfach y bedd!
Pan seinio yr udgorn trwy'r nen ddychrynedig
Alargan ddiweddaf y ddaear a'r mor,
Gâd i mi orphwys lle cân y gwaredig
Gathlau i'th foliant, fy Ngheidwad, fy Ior.

CAN Y MELINYDD.

Ton—Person Paris.


Mae genyf dy cysurus,
A melin newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron.

Mae genyf drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A deg o ddefaid tewion,
A mochyn yn y cwt.