Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ogof Arthur.

I.

RHODIAI gŵr yn araf unwaith
Heibio'r llannerch yng Nghaer Ludd,
Lle bu lys yr hen Frythoniaid—
Gwych oedd hwnnw yn ei ddydd.

Estron oedd y gŵr a chrwydrad,
Tlawd a thruan ar ei hynt,
Ac ni wyddai'i fod yn rhodio
Lle bu gastell Arthur gynt.

Llaes ei wallt a llym ei lygad,
Byr ei gam a'i gefn yn grwm,
Ar ei ffon las onnen gnapiog,
Pwyso'r oedd y gŵr yn drwm.

Ag efô yn mynd yn araf,
Araf heibio'r lle bu'r llys,
Daeth rhyw henwr i'w gyfarfod,
Safodd, cododd arno fys.

Yntau'n dal i gerdded rhagddo,
"Aros," medd yr henwr llwyd,
"Ni bydd ofer iti wrando,
Aros, onid Cymro wyd?"