Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II.

Crwydrodd yntau'r gŵr a'r onnen,
Daeth hyd lethr Elidir fawr,
Ac fe gafodd yno'r boncyff
Oedd o'r golwg yn y llawr.

Troes y boncyff draw, a chafodd
Enau'r ogo dano'n glir;
Ac wrth gadwyn haearn yno
Crogai cloch a thafod hir.

Aeth y gŵr i mewn yn araf,-
Crynu'r ydoedd yn ei fraw,
Weled Arthur a'i farchogion
Yno'n cysgu ar bob llaw.

Gloywon ydoedd eu tariannau
Fel y lloer pan fo yn llawn,
A'u cleddyfau yn disgleirio
Megis pelydr haul brynhawn.

Dug y gŵr o'r trysor lawer,
Ond wrth fyned heibio'r gloch,
Fe'i tarawodd oni chanodd
Hithau'n uchel ac yn groch.

Troi a ddarfu i'r marchogion
Oni thinciai'r arfau'n rhydd,
Cododd pawb ei ben a galwodd
Arthur Gawr, "A ddaeth y dydd?"