Prawfddarllenwyd y dudalen hon
"Na," medd Huw â gwên casineb
A chreulondeb ar ei wedd,
"Cadwer ef yn fyw a dyger
I'n difyrru wedi'r wledd."
Yna aeth y gwŷr i wledda
Gyda'r Iarll yn fawr eu blys;
Angof ganddynt Ruffudd yntau
Ar y lawnt o flaen y llys.
IV.
Safai yno ddau i'w wylio
Nes bod terfyn ar y wledd;
Pwysai'r naill ar fôn ei bicell,
Pwysai'r llall ar garn ei gledd.
Darfod 'r oedd y dydd yn araf,
Gwyll y nos oedd yn trymhau;
Cerddodd gŵr cyhyrog, cadarn,
Heibio'r lle y safai'r ddau.
Nid oedd lediaith ar ei dafod,
Ar ei ôl y cerddai'r ddau,
Cymwys iddo ef orchymyn,
Eiddynt hwythau ufuddhau.
Darfod 'r oedd y dydd yn gyflym,
Gwyll y nos oedd yn dyfnhau,
Dacw'r gŵr cyhyrog, cadarn,
Yn dychwelyd, heb y ddau.