Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Owain a Nest.
I.
YNG nghastell Rhys ap Tewdwr
Yr oedd llawenydd mawr,
Am ddarfod unwaith eto ddwyn
Bwriadau trais i lawr.
Daeth mil o bendefigion
O lawer lle i'r llys,
A mil o feirdd i ganu clod
A mawl y Brenin Rhys.
A pheri a wnaeth y Brenin
Fod yno dwrneimaint,
Ymryson trin y gwayw a'r cledd
Rhwng gwŷr o uchel fraint.
Ar wastad lawnt y castell
Cyfodwyd adail wiw,
A'i gwisgo â theisbanau gwych
A llenni o lawer lliw.
I'r adail eang honno
Yn ôl eu gradd a'u braint,
Y daeth yr arglwyddesau oll
I wylio'r twrneimaint.