Tudalen:Cerddi Hanes.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Huno'n dawel mae fy meibion,
Pell oddi wrthynt yw eu tad;
Gorchwyl gwraig yw tynnu cleddyf
Dros ei gŵr a'i phlant a'i gwlad."

II


Cyn bod gwawr yn cleisio'r dwyrain,
Pan oedd gyfliw gŵr a llwyn,
Clywid twrf ym mhorth y Castell, .
Llawer cri a llawer cwyn.

Dros y rhagfur daeth y gelyn,
Gan ddylifo'n chwyrn i lawr,
Ond 'roedd byddin y frenhines
Rhyngddynt fyth a'r castell mawr.

Hir a chwerw a fu yr ymladd,
Ond bu raid i'r fantol droi,
Nes bod byddin fach Gwenllian
Yn encilio, yna'n ffoi.

Rhuthro'n wyllt yr oedd yr estron,
Awchus oedd ei gleddyf erch,
Cledd bradwrus nid arbedai
Fawr na bychan, mab na merch.

Hunai deufab y frenhines
Yn eu diniweidrwydd pur,
Ond deffrowyd hwythau'n ebrwydd
Gan dinciadau arfau dur.