Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mynd y mae Gwenllian ymaith,
Heb lefaru dim ond hyn,
Saif y crwydryn yntau'n edrych
Ar ei hôl yn hir a syn.
II.
Daeth y bore a'r briodas,
Wele bawb wrth fwrdd y wledd,
A Gwenllian gyda'i phriod
Yno'n oer a gwelw ei gwedd.
Wrth y drws fe saif y crwydryn
Yn ei garpiau'n llwm a llwyd,
Ac edrycha'r arglwydd arno
Yno'n awr yn flin ei nwyd.
Grwydryn, pwy wyt ti, atolwg?
Beth a fynnit?" medd efe;
Pwy i'r neuadd a'th wahoddes?
Gwêl nad yma y mae dy le."
"Pe cawn delyn," medd y crwydryn,-
Hen delynor ydwyf i,-
Canwn foliant i'r arglwyddes
Am y nawdd a roddes hi."
"Os mai hen delynor ydwyt,"
Medd yr arglwydd, cần i ni;
Wele delyn wrth y ffenestr,
Hen yw honno, cymer hi."