Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A'r dyrfa fawr a glywai
Ryw derfysg oddi draw,
Fel cenllysg trwm yn curo
Neu sydyn gafod law;
A'r llygod yn ymdywallt
I ganol Sgwâr y Dref,
Gan rym cyfaredd ryfedd
Ei delyn hudol ef.

VI

Llygod!
O! dyna i chwi lygod a dyna i chwi sŵn!
Rhai cymaint â chathod, bron cymaint â chŵn;
Rhai duon, rhai llwydion, rhai melyn, rhai brith,
Yn lluoedd afrifed cyn amled â'r gwlith;
Rhai gwynion, rhai gwinau,
Rhai tewion, rhai tenau,
Yn rhuthro i'r golau o'r siopau a'r tai,
Gan dyllu trwy furiau o gerrig a chlai:
Rhai mawrion, rhai bychain,
Yn hisian a thisian,
A rhedeg dan wichian at Neuadd y Dref,
Ac yno yn heidio, yn dawnsio a neidio
Wrth nodau deniadol ei delyn ef;
Dilynent y delyn dros briffordd y Brenin
At hen afon Gennin, i ymyl ei lli,
Ac yna'n eu bwrw eu hunain i'w lli.
Y fyddin fileinig
O lygod mawr ffyrnig
Yn llamu yn llawen i ganol ei lli!!