Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y LLOER

UN gannaid hwyr eisteddai gŵr,
A'i 'sbienddrych hir, mewn uchel dŵr,
Gan syllu fry i entrych nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.

Sgrifennodd yn ei lyfr—"Y Lloer
Nid yw ond anial marw, oer,
Di ddŵr, di-awyr, llwm a noeth—
Ysgerbwd byd," medd Llyfr y Doeth.

Ac unwaith cerddai prydydd ffôl,
Yn glaf o serch, ar draws y ddôl;
Edrychodd yntau tua'r nen,
A gwelodd di, O Leuad wen.

Darllenais heddiw gyda gwên
Yng nghywydd mwyn y prydydd hen—
"Canhwyllau'r Brenin bia'r byd
Yw'r gannaid Loer a'r Sêr i gyd"