Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y LLWYN

Haf

Rhyfeddais at dy degwch di
Arglwyddes hardd, a thirion ferch,
Pan ddaeth Mehefin yn ei rwysg
Yn dwym ei fron i ddweud ei serch;
'R oedd aur y flwyddyn yn ei wallt,
Ac yn ei lygaid las' y nef,
A thywysogion Hafau fil
A gerddai yn ei osgordd ef.

Mor llon dy lys, mor llawn dy fwrdd,
Fore'r briodas yn y coed;
A'r llu yn dod â dawns a chân
Ar adain chwim ac ysgafn droed;
Tithau'n ymdroi yng nghwmni'r llanc,
Ac angerdd serch yn gwrido'i wedd;
A minnau a'th westeion fyrdd
Yn oedi uwch cwpanau'r wledd.