Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

MEWN GARDD

DILEUAD hafaidd hwyr,
Y sêr i gyd ynghudd;
A'r awel rhwng y dail
Yn cwyno'n brudd.

Ac yna'r gawod law,
A sisial blagur fyrdd;
Ar coed yn curo'n llon
Eu dwylo gwyrdd.

'R oedd perlau ar bob brig,
Ar fron pob lili dlos,
Yn hirwallt gloywddu pêr
Y wyryf nos.

A pheraroglau'n dod
O gudd welyau'r mwsg,
O'r lawnt lle plygai'r rhos
Ei ben ynghwsg.

O lawer gwritgoch berth,
A gwynion flodau claf,
Cariadon haul a gwynt,
A chawod haf.