Tudalen:Cerddi a Baledi.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac wedyn ben bore drwy'r anial drachefn,
Y gwyr a'r camelod â'u pwn ar eu cefn,
A theithio a theithio heb ddyfod yn nes
At byrth hen ddinasoedd y tywod a'r tes.

Ac yna y seibiant i gamel a gŵr
O dan y balmwydden yn ymyl y dŵr;
Y beichiau yn disgyn, a'r nos yn nesáu,
Y lludded yn cilio, a'r llygaid yn cau.

• • • • • • •

"Rhyw fywyd go lwm a gefaist ti, Twm?,
'R ôl gadael y pentre
Ar alwad y drwm;
Ac lfan, dy gefnder, a Robin a Now
Yn canu bob Sadwrn yng nghegin y Plow.

"A'r hogiau fel arfer yn porthi yn fras
O'r afon a'r llynnoedd a llwyni y plas—
A thithau'n ymdeithio yn boenus dy gam,
Heb ddŵr yn dy lestr, a'th dafod yn fflam."

"Er brwydro yn galed, a theithio yn flin,
Anghofiwn y cwbwl yn hwyl y cantîn,
Ond rhedai fy meddwl yn amal i'r Plow
At Ifan fy nghefnder a Robin a Now.