Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Fflamier y goelcerth o ben pob bryn,
Seinier yr utgorn clir;
Owain sy'n dod, y mawr ei glod,
A'i wyr gyda'r bwa hir.
Owain o hil Llywelyn Fawr,
Owain y coch ei law:
Owain y coch ei gledd a'i saeth
Sy'n morio o Harfleur draw.
II
Paham y taria ei longau ef
Mor hir-ai y don a'r gwynt
A ddaeth a'u lleng; ai y ddrycin ddreng
A'u chwythodd ymhell o'u hynt?
Daeth haf a gaeaf yn eu tro
I'n bro er pan fu'r sôn
Y deuai ef, y Coch ei Law,
O Harfleur draw i Fôn.
A'r gwynt a gludai'i glodydd ô
O lawer bro a glan,
Ond ni ddaeth gwynt a'i longau ô
I frwydro ar ein rhan.