Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwaith beunyddiol. Weithiau dathlwyd dyddiau nodedig yn eu bywydau trwy ganu caneuon fel "Y Dydd Cyntaf o Awst," "Calan Mai," neu "Calan Gaeaf." Cawn lawer o wybodaeth ddiddorol a defnyddiol ynglŷn â bywyd pob dydd ein cyndadau, wrth astudio'r hen gerddi gwerin. Dywaid Romain Rolland, yr ysgrifennwr a'r beirniad Ffrengig enwog, "Y ffordd orau i ddarganfod nodweddion cerddorol unrhyw genedl yw astudio ei chanu gwerin." Credaf y byddai'r gosodiad hwn yr un mor wir am ein gwlad ni hyd yn oed pe baem yn hepgor y gair "cerddorol." Mynega llawer o'r alawon ysbryd rhyfelgar ac annibynnol yr Hen Gymry, dengys rhai ohonynt yr hiraeth sydd gynhenid ynom, eraill arabedd addfwyn, cynhesrwydd calon, ac agosatrwydd cenedl groesawus.

Gwelir oddi wrth ansawdd rhai o'r alawon eu bod ers oesoedd maith yn alawon a ganwyd ar y tannau. Cychwynnodd llawer o'r alawon hyn gyda'r hen delynorion. Er mai cyfyng braidd yw cwmpas yr alawon pan gymherir hwynt ag alawon gorau cenhedloedd eraill, eto i gyd y maent yn syml eu ffurf, ac yn aml yn mynegi teimladau dwys. A'u cymryd at ei gilydd, y maent yn etifeddiaeth deg. Fe ymddengys mai'r telynorion a gadwodd gerddoriaeth Gymreig yn fyw yn yr hen amser. Yr oedd y dynion hyn, a oedd yn aml yn feirdd yn ogystal â cherddorion, weithiau'n llunio geiriau i'r hen alawon, a chlywir rhythmau geiriol nodweddiadol Gymreig mewn rhai ohonynt. Ambell dro byddai'r telynorion yn crwydro'r wlad i ddifyrru hen ac ieuanc, cyfoethog a thlawd. Galwent yn fynych yn nhai'r uchelwyr a chael croeso a nawdd ganddynt. Yr oedd gan ambell un o'r uchelwyr cyfoethog, megis Syr Watcyn Williams Wynn o Wynnstay, ei delynor ei hun. Canai'r telynorion hefyd mewn marchnad a ffair, a derbynnid hwy'n llawen ymhobman. Prin bod dim o'u caneuon wedi eu hysgrifennu. Mewn gwirionedd yr oedd llawer o'r telynorion yn ddall. Bron na ellir dywedyd bod dallineb yn gymhwyster ar gyfer canu'r delyn. Yng Ngogledd Cymru'n bennaf y ffynnent, a rhagorent mewn canu penillion a medru llunio amrywiadau ar alawon poblogaidd.

Yn y ddeunawfed ganrif y dechreuwyd casglu a chyhoeddi alawon Cymreig. Daeth pob un o'r tri thelynor a ymgymerodd â'r gwaith hwn, yn enwog, yn ei dro, yn Llundain. Y mae'n ffaith ddiddorol bod yr holl gasgliadau cynnar hyn wedi eu cyhoeddi y tu allan i Gymru. Dyma enwau'r tri thelynor-