Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hefyd alawon gwreiddiol o'i waith ei hun. Yn eu mysg ceir yr alaw boblogaidd "Cadair Idris" a ysgrifennodd yn 1804.

Fe ddywedir ddarfod i Parry gyfansoddi a chyhoeddi mwy o gerddoriaeth nag unrhyw gyfansoddwr arall yn ei ddydd, ac eithrio Syr Henry Bishop. Credir iddo gyfansoddi dros saith gant o ganeuon, a thua'r un nifer o ddarnau offerynnol— ar gyfer telyn, piano, ffliwt, fflageolet, clarinet, etc. Yn ychwanegol at hyn dywedir iddo ysgrifennu trigain o lyfrau yn dangos y ffordd í ganu gwahanol offerynnau. Ceir ganddo hefyd gasgliad o ddwy fil o alawon gwahanol wledydd. O'r holl waith yma, nid erys ar gof a chadw ond ei gasgliad o alawon Cymreig, "Cadair Idris," "Ap Siencyn" a "Flow Gentle Deva." Ar wahân i'w waith fel cyfansoddwr a thelynor, ysgrifennodd Bardd Alaw yn helaeth ar gerddoriaeth. Anfonodd erthyglau i'r Cambro-Briton, The Musical Times a Seren Gomer. Yr oedd hefyd yn adnabyddus fel beirniad ym mhrif eisteddfodau Llundain a Chymru, a bu'n dal swyddi pwysig yn ystod ei fywyd hir a defnyddiol. Bu farw yn Llundain yn 1851.

Cyn gadael y tri thelynor hyn, dylid crybwyll John Thomas (Pencerdd Gwalia). Mewn llawer o bethau, yr oedd ei yrfa'n debyg i'r eiddynt hwy. Fel hwythau, gadawodd ei wlad yn ieuanc, ac ymsefydlu yn Llundain. Yno cafodd lwyddiant ac enwogrwydd. Gafaelodd swyn Llundain mewn cerddorion, hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Trwy fynd yno, enillodd ein telynorion fwy o enwogrwydd na'r hen delynorion gynt, a fu'n difyrru pobl y farchnad a'r ffair. Yn Llundain, cafwyd gwell athrawon, felly daeth y telynorion i ganu'n fedrusach. Heblaw hyn, caent yno well cyfleusterau i gyhoeddi eu cyfan- soddiadau a'u casgliadau o alawon Cymreig. (Ni chyhoedd- wyd llyfr o alawon Cymreig yng Nghymru tan 1844, pan ym- ddangosodd Airs of Gwent and Morganwg Jane Williams, a gyhoeddwyd yn Llanymddyfri). Oherwydd i'r telynorion ymsefydlu yn Llundain, daeth llawer o'r alawon Cymreig mor boblogaidd nes eu canu ar lwyfannau'r brifddinas tua diwedd y ddeunawfed ganrif.

Ganed JOHN THOMAS (Pencerdd Gwalia) ym Mhen-y- bont-ar-Ogwr, Gŵyl Dewi, 1826. Yn fuan iawn, daeth i fedru canu'r delyn yn dda, a phan nad oedd ond tair ar ddeg oed, enillodd delyn deires yn wobr yn Eisteddfod Abergafenni yn 1839. Flwyddyn ar ôl hyn, trwy gymorth yr Iarlles Love-