Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw ei waith yn y ffurf hon. Heblaw hyn ysgrifennodd anthemau da. Cafodd un ohonynt, "Bendigedig fyddo Ar- glwydd Dduw Israel," ei chanu drwy'r wlad am flynyddoedd lawer, ac fe'i clywir weithiau heddiw. Dyma un o'r anthemau Cymreig gorau a mwyaf poblogaidd a ysgrifennwyd erioed. Ychydig o'i donau a ddaeth yn boblogaidd, ond y mae "Blaencefn," "Aberporth" a "Cymod" yn nodedig, ac fe'u cenir am flynyddoedd eto. Yn ddiweddarach, symudodd John Thomas i Lanwrtyd, lle y bu'n bostfeistr. O hyn allan, adnabyddid ef fel "John Thomas, Llanwrtyd." Yr oedd ei gartref yn Llanwrtyd yn gyrchfan cerddorion y dydd. Yr . oedd yn boblogaidd fel beirniad ac arweinydd cymanfaoedd, a mawr oedd ei ddylanwad ar gerddoriaeth ei oes.

Un arall o'r canigwyr oedd W. T. REES (Alaw Ddu) a aned yn Nhrelalas, ger Pen-y-Bont-ar-Ogwr yn 1838. Adnabyddir ef yn bennaf fel cyfansoddwr y ganig boblogaidd "Y Gwlithyn." Ar ôl ysgrifennu'r ganig hon, newidiodd ei arddull, y mae'n debyg o achos dylanwad yr ysgol Almaenaidd. O hyn allan, aeth ei gerddoriaeth yn beth sych a dieneiniad. Eto i gyd, yr oedd ganddo uchelgais, ac fe gyfansoddodd gantata, "Y Bugail Da," a gwaith dramatig o'r enw "Llywelyn ein Llyw Olaf," ond ni fu'r un ohonynt yn llwyddiannus. Dyn myfyrgar oedd Alaw Ddu, a heblaw cyfansoddi, ysgrifennodd lawer am gerddoriaeth. Bu'n olygydd yr Ysgol Gerddorol, na fu fyw ond am ychydig, a Cerddor y Cymry a'i dilynodd aca fu fyw yn llawer hwy. Y mae rhai o'i donau'n boblogaidd o hyd, a'r fwyaf adnabyddus ohonynt yw "Glanrhondda." Treuliodd ran olaf ei oes yn Llanelli, lle y bu farw yn 1904.

Ganed DAVID EMLYN EVANS ger Castell Newydd Emlyn yn 1843. Prentisiwyd ef yn llanc, i ddilledydd, ac yn ddiweddarach bu'n drafeiliwr yn yr un math o fusnes. Ymdrechodd i ddatblygu ei ddawn at gerddoriaeth, ond ar wahân i ychydig wersi gan Ieuan Gwyllt, yr oedd yn hollol hunanddysgedig. Bu'n eithriadol lwyddiannus mewn eisteddfodau, ac enillodd chwech a thrigain o wobrau mewn deuddeng mlynedd. Ei gamp fwyaf oedd yn Eisteddfod Porthmadog yn 1867, pan enillodd y brif wobr gyda'i ganig, "Y Gwanwyn." Fel Gwilym Gwent, John Thomas a Joseph Parry, gwnaeth lawer i hyrwyddo'r mudiad corawl yng Nghymru drwy ysgrifennu canigion ac anthemau, a ddaeth yn boblogaidd iawn.