Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/42

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cerddoriaeth yng Nghymru inni beidio ag anghofio'r gwaith gwerthfawr a wnaethpwyd. gan lawer o gerddorion a gyfrannodd i'r gwahanol lyfrau tonau a gyhoeddwyd o 1859-blwyddyn cyhoeddi llyfr Ieuan Gwyllt—ymlaen. Wrth edrych yn ôl dros y cyfnod hwn, gwelwn y nifer mawr o donau gwych a ddaeth i'n meddiant y pryd hwnnw. Peth ffodus, yn ddiau, ydoedd mai Ambrose Lloyd ac Ieuan Gwyllt oedd yr arloeswyr, oherwydd gosodasant hwy safon uchel i'r dôn gynulleidfaol.

Bron yn gyfochrog â thwf y Gymanfa, fe gododd mudiad y Tonic Sol-ffa, ac fe roes hwn symbyliad cryf i ganu corawl a chynulleidfaol. Eleazar Roberts ac Ieuan Gwyllt oedd prif genhadon y nodiant newydd yng Nghymru. Yr oedd Ieuan Gwyllt yn danbaid iawn drosto, fel y dengys ei waith yn cyhoeddi yn 1864 argraffiad sol-ffa o'i Lyfr Tonau, a chychwyn yn ddiweddarach Cerddor y Tonic Sol-ffa er mwyn hyrwyddo'r efengyl newydd. Onibai am gynnydd cyflym y tonic sol-ffa yng Nghymru, ni buasai'r adfywiad corawl mawr yn yr wyth degau a'r naw degau wedi digwydd; neu o leiaf, buasai wedi digwydd ar raddfa lai o lawer, heb y ffordd rwydd o ddarllen cerddoriaeth a gafwyd yn y tonic sol-ffa.

Elfen nodedig oedd y pwysigrwydd a oedd yn dyfod i ran yr Eisteddfod, a'r effaith a gafodd ei phoblogrwydd cynyddol ar ein canu corawl. Yn ystod cyfnod y ganig, daeth bri ar yr Eisteddfod fel sefydliad cerddorol. Yr oedd wedi creu brwdfrydedd dros gerddoriaeth Gymreig-cerddoriaeth gorawl yn bennaf, rhaid cyfaddef. Bu cyfansoddwyr gorau'r dydd yn cystadlu am wobrwyon; dewiswyd y cyfansoddiadau buddugol fel darnau ar gyfer cystadlaethau corawl y dyfodol, ac felly cawsant le yn stoc yr holl gorau Cymreig. Nid oedd corau'r pryd hwnnw yn rhai mawr fel corau heddiw, ond yn hytrach rhai bychain o ugain i ddeg-ar-hugain o leisiau. Fel rheol, canent yn ddi-gyfeiliant, ac yr oedd yn eu canu ryw ffresni na chaed mohono ar ôl y dyddiau hynny.

Bychain iawn oedd y gwobrau yn y prif gystadlaethau corawl. Hyd yn oed mewn Eisteddfod Genedlaethol, ystyrid pumpunt yn wobr ddigonol y dyddiau hynny. Yn ddiweddarach, codwyd ef i ddecpunt, ond fe aeth llawer blwyddyn heibio cyn codi'r wobr i dri ffigur. Fel y cynyddai'r wobr, felly y cynyddai'r corau o ran rhif eu haelodau, nes cael yn nechrau'r ganrif hon gorau o ddau neu dri chant o leisiau'n cystadlu am wobrau o ddau gant o bunnau. Mewn ffordd,