Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o ganu penillion. Buasai rhywun yn meddwl y byddai ffurf mor hanfodol Gymreig â hon wedi denu sylw'r cyfansoddwyr Cymreig, ac y byddent hwy wedi gwneuthur arbrofion arni, a cheisio datblygu ffurf newydd, gynhenid. Ond ni wnaethpwyd hyn. Y mae'n beth rhyfeddach fyth na wnaeth yr un o'r cantorion enwog yng Nghymru astudiaeth arbennig o ganu penillion, nac ymarfer a'r gelfyddyd ar goedd. Y prif gyfansoddwyr caneuon yn nechrau'r ganrif hon oedd Vincent Thomas (geiriau Saesneg a ddefnyddiodd ef ran amlaf), T. Hopkin Evans a D. Vaughan Thomas.

Gwnaeth DAVID VAUGHAN THOMAS ymdrech lew i dorri llwybr newydd i'r gân Gymreig. Yr oedd ganddo ddiddordeb byw yn yr hen farddoniaeth Gymraeg, a bu'n dyfal astudio'i mesurau, yn arbennig mesur y cywydd. Gwnaeth arbrofion gyda'r mesur hwn gan ysgrifennu cerddoriaeth i'r cywyddau. Ni adawodd ar ei ôl ddim campweithiau yn y ffurf hon, nid oherwydd dim gwendidau a oedd iddo fel cerddor, ond am nad oedd ganddo'r ddawn i ysgrifennu alawon diymdrech, dawn sy'n anhepgor i gyfansoddwr caneuon. Ond y mae rhai o'i ganeuon bron â bod yn gampweithiau, er enghraifft "O Fair Wen" a "Berwyn." Eithr y mae caneuon o'r math hwn a ysgrifennodd Vaughan Thomas yn rhoi inni'r argraff mai ysgolor gwych yn hytrach na chyfansoddwr wedi ei ysbrydoli ydyw. Y mae ganddo lawer o ganeuon o safon uchel, yn arbennig y ddwy a grybwyllwyd uchod, a hefyd rhai a ysgrifennodd i farddoniaeth gan George Meredith, "Dirge in the woods," a "Enter these enchanted woods"-dwy gân sydd ymysg y pethau gorau a gyfansoddodd. Ar wahân i'r caneuon Saesneg hyn, y mae ei ganeuon ar delynegion Cymraeg yn hynod o Gymreig eu hansawdd, ac y mae'n bosibl mai ymhen blynyddoedd i ddyfod y gwelwn ffrwyth ei waith, ac y'i gwerthfawrogir yn fwy. Amser yn unig a ddengys a fydd y tir lle y bu ef yn archwilio, yn cael ei drin gan gyfansoddwyr caneuon yng Nghymru'r dyfodol.

Wrth ymdrin â'r gân Gymreig, rhaid inni beidio ag anghofio'r gwaith a wnaed gan yr Eisteddfod Genedlaethol. Fe roes gefnogaeth i gyfansoddwyr yn gyson ar hyd y blynyddoedd drwy gynnig gwobrau am y caneuon gorau, a thrwy gyhoeddi rhai o'r caneuon buddugol o bryd i'w gilydd. Fel y gwelsom eisoes, bu William Davies yn cystadlu'n rheolaidd (ac yn ennill) yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod yr