Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Penodwyd ef yn athro cerddoriaeth yno, pan sefydlwyd y gadair yn 1908, a llanwodd y swydd yn anrhydeddus nes ym ddiswyddo yn 1939, pan ddaeth y Dr. J. Morgan Lloyd i'w ddilyn. Fel sol-ffawr y dechreuodd ei yrfa, gan lwyddo i basio'n rhwydd gydag anrhydedd y naill arholiad ar ôl y llall, nes cael ohono y radd Mus.Doc. (Rhydychen). Pan nad oedd ond ieuanc, daeth yn feirniad poblogaidd, ac yn arweinydd cymanfaoedd. Rhoddodd flynyddoedd maith i wasnaethu Caniadaeth y Cysegr, a'r Eisteddfod. Ysgrifennodd yn hel aeth ar gerddoriaeth, yn Saesneg a Chymraeg, a bu'n un o olygyddion Y Cerddor o 1916 nes ei ddirwyn i ben yn 1921. Bu o wasanaeth mawr i achos caniadaeth y cysegr, fel cyfansoddwr a golygydd. Golygodd Llyfr Emynau a Thonau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd a'r Revised Church Hymnary, gan gyfrannu tonau iddynt hefyd. Fel cyfansoddwr enillodd y brif wobr am gyfres i gerddorfa yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr (1901). Ar ôl hyn, rhoes ei ddawn i gyfansoddi ar gyfer corau, gyda chyfeiliant cerddorfa. Dyma'i brif weithiau yn y cyfeiriad hwn: "The Coming of Arthur," a ysgrifennwyd ar gyfer Gŵyl Caerdydd yn 1907, "Deffro, mae'n Ddydd," "Gloria" a gyfansoddwyd i ddathlu dau- canmlwyddiant Methodistiaeth yng Nghymru, ac "Alcestis," gwaith i gor gyda chyfeiliant i gerddorfa linynnol. Y mae'n bosibl mai fel athro y gwnaeth David Evans ei wasanaeth mwyaf i Gymru. Bu'n Athro Cerddoriaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, am un mlynedd ar hugain, ac yn sicr, ef yw un o'r athrawon gwychaf a gynhyrchodd Cymru erioed; profir hyn gan y nifer mawr o ddisgyblion llwyddiannus sydd mor ddyledus iddo am eu dysgu a'u hysbrydoli.

Ganed T. HOPKIN EVANS yn Resolfen yn 1879, a bu'n ddisgybl i'w gefnder, David Evans. Dilynodd ei athro trwy ennill y radd o Mus.Doc. (Rhydychen). Enillodd ei wobr gyntaf am gyfansoddi yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1905, gyda'i fadrigal swynol "Ar doriad dydd." O 1909 hyd 1919, bu'n organydd ac arweinydd y côr yng nghapel Presbyteraidd Cymraeg Castell Nedd. Yn 1919, symudodd i Lerpwl, lle y bu'n olynydd i Harry Evans fel arweinydd yr Undeb Corawl Cymreig. Yma, aeth ymlaen â'r gwaith da a wnaethpwyd yno gan ei ragflaenydd, a rhoddi perfformiadau nodedig o weithiau gan Delius, Vaughan Williams a chyfansoddwyr modern eraill, heblaw gweithiau gan y cyfansoddwyr clasurol.