wedi ei gorffen, a gobeithio yr ail-afaelir ynddo eto. Ei waith diweddaraf, a'r gorau yn fy marn i, yw "Anatiomaros". cathl symffonig i gerddorfa lawn, a berfformiwyd ac a ddarlledwyd am y tro cyntaf Ddydd Gŵyl Dewi 1944. Dyma'n ddiamheuol waith a fydd byw. Y mae ynddo egni, gloywder, a gallu mawr i gynnal y mynegiant yn ddi-wyro. Oherwydd hyn, ym marn y beirniaid a'i clywodd, y mae'r gwaith yn nodedig iawn ymysg gweithiau Cymreig y gerddorfa. Cymerwyd y teitl "Anatiomaros" oddi wrth gerdd enwog y Dr. T. Gwynn Jones, ac y mae'r gwaith yn deyrnged iddo ef. Ystyr y gair yw "enaid mawr," a myfyriodd y cyfansoddwr ar ystyr y geiriau hyn, gan ei throsi i gerddoriaeth sydd weithiau'n arwrol, weithiau'n dyner, ond bob amser yn ddiffuant. O dan ddylanwad ei brofiad yn yr eglwys yn Rhydychen, gosododd Arwel Hughes beth o'r Offeren Sanctaidd, "Kyrie Eleison," i soprano a chôr a chyfeiliant cerddorfa. Cyhoeddwyd hwn dan y teitl "Gweddi," a'i ganu yn Eisteddfod Genedlaethol Llandybïe yn 1944. Perfformiwyd ei waith diweddaraf ar gyfer cerddorfa, a'r gorau hyd yn hyn (Prelude for Orchestra"), am y tro cyntaf, dan gyfarwyddyd y cyfansoddwr ei hun, yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog, 1945, ardal enedigol yr awdur. Clodforwyd ef fel gwaith gwych gan y beirniaid cerddorol. Y mae ef yn dra höff o gerddoriaeth draddodiadol Cymru, a gwnaeth drefniadau rhagorol o alawon gwerin. Trefnwyd amryw ohonynt ar gyfer offerynnau, a hynny'n arbennig ar gyfer eu darlledu gan Gerddorfa Linynnol Powys. Y mae ei drefniant o'r hen alaw wych honno, "Cân y Pibydd Coch," ar raddfa ehangach, ac wedi ei sgorio i gerddorfa lawn. Y mae hwn yn waith rhagorol; nid yw'r trefnydd byth yn colli golwg ar yr alaw, eithr ei haddurno heb ei chuddio. Y mae dyfodol cerddoriaeth offerynnol yng Nghymru yn dibynnu llawer ar Arwel Hughes a Grace Williams. Y mae'r ddau gyfansoddwr hyn eisoes yn tynnu sylw cerddorion deallus y tu allan i Gymru, a da fuasai i gyfansoddwyr ieuainc Cymru gymryd eu harwain ganddynt.
Cyfansoddwr arall y disgwylir pethau mawr ganddo yw MANSEL THOMAS. Ganed ef yn Tylorstown, ac astudiodd yn y R.A.M. o dan Benjamin Dale. Penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cerdd Cynorthwyol i'r B.B.C. yng Nghymru yn 1936. Ei brif weithiau cerddorfaol hyd yn hyn yw "Variations on an Original Theme" a "Variations on Morfa Rhudd-