Tudalen:Cerddoriaeth yng Nghymru (Cyfres Pobun).djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

PAHAM A PHA BETH?

Y mae llawer o holi a phryderu beth a ddaw o Gymru ym merw a dadrithio y dyfodol agos. Er cynorthwyo gwerin Cymru i fanteisio ar y cyfle tynghedol a ddaw iddi ar ddiwedd y rhyfel, penderfynwyd cyhoeddi cyfres o lyfrau a fydd yn ymdrin a'r problemau mawr a wyneba Gymru y pryd hynny. Sicrheir gwŷr hyddysg ym mhob un o'r pynciau y bwriedir eu trin. Ceir crynodeb byr hanesyddol o'r pwnc, eglurir y safle fel y mae heddiw, y datblygiad naturiol y gellir ei ddisgwyl yn y dyfodol, ac os bydd galw am hynny, amlinelliad o'r gwelliannau y geilw'r safle amdanynt.

GOLYGYDD

Y Cyfrolau a drefnwyd, ac y mae eraill yn yr arfaeth.

CYMRU DDOE -- A. H. WILLIAMS, M.A.
ADDYSG -- Yr Athro W. MOSES WILLIAMS, M.A.
Y WASG GYMRAEG -- E. MORGAN HUMPHREYS, M.A.
GLO -- JAMES GRIFFITHS, A.S.
ENWAU LLEOEDD -- Yr Athro IFOR WILLIAMS, M.A., D.Litt.
LLYWODRAETH LEOL -- EDGAR L. CHAPPELL
CERDDORIAETH -- IDRIS LEWIS

(wedi eu cyhoeddi)

DIWYDIANT A MASNACH--Dr. D. J. DAVIES
CREFYDD--Y Parchedig J. H. GRIFFITH, M.A.
CELFYDDYD -- LLYWELYN AP GWYNN
LLENYDDIAETH--I Yr Athro IFOR WILLIAMS, M.A., D.Litt.
LLENYDDIAETH--II TOM PARRY, M.A.
Y DDRAMA -- Mrs. MARY LEWIS, B.A.
IECHYD--Dr. T. TREVOR JONES.
Y RADIO -- PHILIP PHILLIPS
AMAETHYDDIAETH--MOSES GRIFFITH, M.Sc.