Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

grifau i beidio bod yn rhy gywrain gyda gwybodaeth ddrwg a pheryglus, a thrwy hynny fwyta o'r pren na ddylem gyffwrdd ag ef, sef y pren gwybodaeth sy'n agor llygaid i weithredoedd drwg. Mae arnaf ofn fod Bera yn gwybod gormod o lawer. Pa fodd y cyrhaeddodd y fath wybodaeth nis gwn i. Y Nef a'n gwaredo rhag phob hudoliaeth o ba natur bynnag, ac a nertho ein ewyllys ni i fod fel ewyllys ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd."

"Amen," oedd cydsyniad difrifol Oeris. "Ond pa fodd y syrthiais i yn aberth i ystryw'r Wrach ddu ' Yr wyf yn methu dwyn i gof unrhyw drosedd difrifol a gyflawnais fel y syrthiwn i'r fath berygl. Mae'n rhaid bod fy mhechod yn fawr iawn!"

"Mawr neu fychan, Ceris; nid tydi a minnau sydd i farnu gradd pechod. Gallwn ddweyd yn ddiogel, ' Duw ei Hun sydd Farnwr.' Gallasai yr hyn a wnaethost fod yn fychan yngolwg dyn hyd nes i'r holl ganlyniadau ddod i'r amlwg. Dwg i gof, os gelli, y weithred neu dy ymddygiad, cyn i ti golli dy ymwybodolrwydd. Gwreichionen fechan wedi ei chyfnerthu ag anadliad a dyr allan yn goelcerth."