Tudalen:Ceris y Pwll.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XIV. Y CILIAU

YN y penodau o'r blaen cyfeiriwyd yn fyrr at achosion pwysig i wahanol ddigwyddiadau amgylchynol i, ac ynglŷn â'r prif bersonau yn yr hanes, ac awgrymwyd pethau pwysig fuont yn anuniongyrchol yn dwyn effeithiau fel ffrwyth heddychol i liniaru llawer ar y croes-deimladau ac anghydweliadau tarddedig o'r berthynas oedd rhwng y goresgynwyr a'r goresgynedig yn ein gwlad fechan ni yn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr ystori.

Yn y lle cyntaf, cyfeirir yn helaethach eto at yr ail genhadaeth fawr Gristionogol a effeithiodd gymaint ar foesoldeb a chynnydd gwybodaeth yn holl Lannau yr Ynysoedd Prydeinig. Yn y genhadaeth gyntaf yr oedd y Cil-dŷwyr (Culdees) yn cymeryd y rhan bwysicaf yn lledaeniad crefydd. Yn yr hanes chwedlonol Brythonig disgrifir y cenhadon hynny fel plant neu ddisgyblion Brychan Brycheiniog, y rhai, mae'n debyg oeddynt sefydlwyr cyntaf y Ciliau, neu