Tudalen:Chwalfa.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Byrbwyll, ydw' i? Byrbwyll? Bos! Byrbwyll! Beth arall, mi liciwn i wbod?"

"Yr hyn on i'n . . . "

"Peidiwch â hel esgusion. Cyn gynted ag yr ydw' i'n troi fy nghefn, dyma chi a'ch pen-glin yn y gegin fach 'ma yn . . . yn rhedag yr Eglwys a'ch gwraig eich hun i lawr . . .

"Na, dim ond newydd.

"'Does dim rhyfadd na chawsoch chi mo'ch gwaith yn ôl yn y chwaral, dim . . . dim rhyfadd o . . . o gwbwl."

Syrthiodd i gadair, gan anadlu'n gyflym a rhythu mewn dychryn i'r nenfwd. Rhuthrodd Gruffydd Davies i nôl blwch oddi ar silff gerllaw, ac wedi malu tabled yn fân yn ei law, tywalltodd y llwch gwyn i lasaid o ddŵr.

Hwdiwch, Letitia bach, yfwch hwn. 'Ddaru ni ddim sôn amdanach chi tan y munud 'ma. Naddo, Megan?"

"Naddo."

"Siarad am y chwaral a'r capal a . . . ac Edward Ifans yr oeddan ni. Yntê, Megan?'

"Ia."

"A Megan yn digwydd gofyn imi p'run ai'r Eglwys ai'r capal oedd y gora' gin'i. Yntê, Megan? ”

"Ia."

Wedi i Ruffydd Davies rwbio'i dwylo a chwifio papur newydd yn wyllt o flaen ei hwyneb, daeth Letitia ati'i hun yn o dda.

"Ydach chi'n teimlo fel trio tamaid o ginio 'rwan, Letitia?" gofynnodd ei gŵr iddi.

Efalla' . . . efalla' y medra' i fwyta . . . tipyn bach." "'Ga'i ddechra' torri'r cig?" gofynnodd Megan.

"A Gruffydd Davies yn sefyll yn fan'ma yn gwneud dim byd? 'Chlywis i ddim bod y cricmala' wedi cyrraedd 'i fysadd o hefyd. 'Ydi hi ddim yn well iti fynd i alw dy ŵr at 'i ginio? 'Dydan ni ddim yn arfar dechra' bwyta hebddo fo yn y tŷ yma, beth bynnag oedd y drefn yn Nhan-y-bryn."

Pan eisteddodd y teulu wrth y bwrdd, pigo'i bwyd yn fisi a wnâi Letitia, a'r tri arall yn ei gwylio'n bryderus ac yn ei thrin fel gwestai anrhydeddus yn ei thŷ ei hun. Ond er y boen a'r ymdrech, cliriodd ei phlatiau'n o dda, er gweld y grefi'n rhy denau a'r pwdin reis yn rhy dew. Gwrandawai'n garuaidd ar bopeth a ddywedai Ifor, ond ni chymerai'r un sylw o'i gŵr nac o Fegan. A theimlai Ifor, gan nad oedd a