Tudalen:Chwalfa.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

petha' iddyn nhw neu droi'r maen llifo neu redag i negas, ac ymhellach ymlaen i gowcio a phygio rhwng y 'styllod-neu at y rhai oedd yn gwneud yr hwylia', neu i'r ropog—y ropewalk, wyt ti'n dallt—at y dynion oedd yn plethu'r rhaffa', neu i'r efail at y gofaint. 'Roeddan ni'r hogia'n meddwl mai ni oedd pia'r Maid cyn y diwadd. Oeddan, 'nen' Duwc. A dyna le oedd yn y Borth 'cw ddydd y lanshio!—fflagia' ar bob tŷ ac ar y coed o gwmpas, a channoedd ar gannoedd o bobol wrth y Slip . . . 'Ddeudis i wrthat ti, dywad, mai Madog Morris oedd pia' hi?"

"Naddo. Pwy oedd o?"

Edrychodd Simon Roberts yn ddirmygus ar Llew, ac yna syllodd i'r pellter mewn anobaith. Poerodd ei ddiflastod mewn sug baco i'r dŵr oddi tano.

"Mi fyddi'n gofyn pwy oedd yr Apostol Paul imi mewn munud. Mi fildiodd Madog Morris ugeinia' o longa'. Fo adeiladodd y Mary Ann a'r Welsh Seagull a'r Cybi a'r Boni a'r Moses Davies a'r—ond be' ydi'r iws? Y gogoniant a ymadawodd o Israel." Ysgydwodd ei ben mewn tristwch mawr.

"Sôn am y lanshio yr oeddach chi."

"Ia. Ia, yntê?" Rhoes Simon Roberts gnoad newydd o faco yn ei geg; nid yn aml y câi wrandawr mor eiddgar. "Gwraig Madog Morris ddaru 'i bedyddio hi, a 'chafodd llong erioed y fath Hwrê!' ag a gafodd y Maid. Ar 'i blaen hi yr oedd y ffigur-hed hardda' welwyd yn y Borth 'cw—delw o Forfudd, hogan fach Madog Morris, fel petai hi'n dawnsio ar donna'r môr a'i gwallt hi'n nofio yn y gwynt a swp mawr o floda' yn 'i dwylo hi. Mi lithrodd i lawr y Petant Slip ac i'r môr fel 'deryn, ac ar ôl y lanshio fe aeth Owen Jones, y gwnidog Sentars—Sentar oedd Madog Morris—i gynnal gwasanaeth ar y bwrdd ac i weddïo am wynt teg iddi hi. Ac ymhen rhyw 'thefnos yr oedd y Maid yn hwylio am yr Indian Osian, a phawb o'r Borth 'cw hyd y traeth a'r creigia' yn 'i gwylio hi'n mynd a'i hwylia' hi'n wyn fel eira a'r haul yn 'sgleinio arnyn' nhw. Yno y buo hi, ym mhen draw'r byd, am ryw bedair blynadd."

"'Roeddach chi'n ddeuddag oed pan ddaeth hi'n 'i hôl?" "On, fachgan. A dyna siomedig on i pan welis i hi'n angori yn y Borth 'cw."

O?"