Tudalen:Chwalfa.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwy gwahanol i'r un annuwiol o lân a thawel a dwys a adawsai. Taflai'r Ap ei gôt a'i het ar rywbeth a ddigwyddai fod wrth law, a gollyngai lwch baco fel lafa hyd y tŷ. Llafarganai gywydd gan Wiliam Llŷn neu Dudur Aled, ei hoff feirdd wrth eillio'i wyneb yn y bore, rhuai englyn neu ddau ar ei ffordd i lawr y grisiau, dynwaredai bregethwyr wrth aros am ei frecwast, a chanai gân faswedd fel y paratoai i gychwyn at ei waith. Llanwai lawer munud segur hefyd â chastiau bachgennaidd. Doeth oedd i Ifan Rowlands edrych yn ofalus tu fewn i'w gap yn y bore, rhag ofn bod ynddo flawd a'i heneiddiai ryw ddeng mlynedd cyn iddo gyrraedd yr orsaf, neu ym mhocedi'i gôt fawr, rhag ofn iddo, ac yntau'n ddirwestwr selog ers blwyddyn, ddarganfod yno declyn i agor poteli neu dri neu bedwar o gyrc. A chofiai Mrs. Rowlands yn bryderus am y tro hwnnw yn y capel pan agorodd hi ei phwrs yn frysiog i roi rhywbeth yn y casgliad, a'i gael yn llawn o fotymau.

Ond adloniant mawr yr Ap yng nghwmni Dan oedd ei nofel "Y Tyddyn Gwyn," a lanwai dair colofn—fwy neu lai, yn ôl hwyl a sobrwydd yr awdur—o'r "Gwyliwr " bob wythnos. Yr oedd yr Ap yn meddwl y byd o'i nofel, a soniai am y cymeriadau nid fel rhithiau dychymyg ond fel pobl y trawai arnynt bob dydd. "Noson iawn i Dwm Potsiar fynd allan heno," sylwai, neu, "'Roedd 'na ddyn yn y Ship' heno yr un ffunud â'r hen Sgweiar, fachgan." Ystrydebol oedd y stori-hanes gŵr Tyddyn Gwyn yn cael ei droi o'i ffermdy am wrthod pleidleisio i'r Sgweier—a chan y gwaeddai'r cysodwyr am eu tair colofn bob wythnos, mympwyol a brysiog oedd hynt y chwedl mewn llawer pennod.

"Be' wna' i hefo Meri'r ferch yr wsnos yma, dywad?" oedd y cwestiwn amser swper ar yr ail nos Lun i Dan fyw yn nhŷ'r Ap. "Hm, piti imi yrru mab y Sgweiar i ffwrdd i'r 'Mericia, yntê? Daria, mi ddo' i â fo adra'n sydyn a'i yrru o dros 'i ben mewn cariad hefo Meri. Os gwn i fydd Wil Llongwr yn yr Harp' 'na heno?"

"Pam"?

"Mae o newydd ddŵad adra' o'r 'Mericia. Tyd, Daniel, mi awn ni i lawr yno i weld."

"Na, mae'n well imi aros yma i . . . i orffen cyfieithu'r araith 'na gan Lloyd George."