Tudalen:Chwalfa.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

undeservedly withdraw our remarks in the last issue," meddai'r nodyn," and tender our apologies to the Council for not using more fitting language." Diawl y Wasg a drawodd y 'd' yn lle'r 'r' yn yr ail air, a chafodd dafod uchel—ac ambell winc slei-gan y Golygydd am ei ddiofalwch. Prynodd cannoedd y papur y Gwener hwnnw i weld y 'd,' a mynnodd yr Ap ddathlu'r amgylchiad drwy arwain ei gydletywr i'r Harp' yn syth ar ôl swper i ddangos y 'd' i Wil Llongwr ac eraill.

Llithrai'r amser heibio'n gyflym i Dan yn awr. Daliai i fynd adref bob prynhawn Sadwrn a chadwai ychydig sylltau'n rheolaidd i'w rhoi i'w fam. Triswllt yn lle pedwar neu bump: wedi'r cwbl, yr oedd yn rhaid i ddyn gael rhyw bleser mewn bywyd, onid oedd? Ond un nos Sadwrn yn nechrau Mawrth, gwrthododd Martha Ifans eu cymryd.

"Na wna', wir, Dan," meddai'n benderfynol. "'Rwyt ti wedi mynd i edrach yn dlawd ers wsnosa'. Mae'r 'sgidia' 'na isio'u gwadnu a'u sodli ers amsar ac mae'n hen bryd iti gael crys newydd. 'Wyt ti . . . 'wyt ti'n gorfod talu mwy am dy lodjin 'rwan?"

Na, yr un faint. Pam oeddach chi'n gofyn?"

"Dim byd, ond . . . Ond cofia di brynu crys yr wsnos nesa' 'ma a gyrru'r 'sgidia' 'na at y crydd."

Prynwyd y crys mewn siop lle gellid talu amdano fesul swllt, ond bu'r esgidiau am rai wythnosau heb fynd i weithdy'r crydd. Edrychai Martha ac Edward Ifans yn bryderus ar ei gilydd bob prynhawn Sadwrn pan gyrhaeddai Dan: yr oedd y bachgen yn wahanol, yn fwy huawdl, yn uwch ei lais, yn . . . yn mynd yn debycach i Ifor rywfodd. "Mi fydda' i'n 'i dynnu o o Gaer Fenai a'i yrru o'n 'i ôl i'r Coleg cyn gynted ag y bydda' i'n ennill cyflog eto, Martha," meddai'r tad droeon, gan weld yn ei llygaid hi yr ofn a oedd yn ei galon ei hun.

Nofel yr Ap, ei gastiau bachgennaidd yn y tŷ ac yn y swyddfa; llyfrau a llenyddiaeth; y rhuthr i lenwi'r Gwyliwr bob wythnos; gyrru Enoc, a oedd yn Eglwyswr selog, i ddadl chwyrn ag Wmffra Jones ynghylch Mesur Addysg Balfour; ambell orig yn yr Harp' yn tynnu coes Wil Llongwr; rhai amlach yn y "Black Boy"yn hudo direidi i lygaid duon duon y ferch dlos a gynorthwyai'i thad tu ôl i'r bar-âi bore Llun tan fore Sadwrn heibio fel y gwynt i Dan. Pan letyai hefo