Tudalen:Chwalfa.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ofni symud gerllaw iddynt, o fewn tri cham, yr oedd yr hafn, a'r niwl yn ymdreiglo trosti. Ymddangosai fel rhyw grochan enfawr, ysgeler, a mwg rhyw ddewiniaeth hyll yn hofran ynddi.

Cododd y ddau'n araf, a chwarddodd Llew i ymlid ymaith y braw o lygaid ei frawd.

"Rho dy fraich am f'ysgwydd i, Gwyn," meddai, "a thria roi'r pwysa' ar sawdl dy droed ddrwg."

Felly yr aethant am ryw ganllath, gan chwilio am y graig fawr wrth y fforch. Ond erbyn hyn yr oedd pob craig yn fawr yn y niwl, a chofiodd Llew fod tyfiant o fanwellt a mwsogl tros y fforch. Beth pe crwydrent trosti i'r rhostir noeth a baglu'n ddall tua rhyw ddibyn ysgithrog? Yr oedd yn well iddynt aros lle'r oeddynt.

"Tyd, Gwyn, mi awn ni i lechu o dan y graig 'ma a gweiddi am help."

Aethant i gysgod un o'r creigiau, a rhoes Llew ei ddwy law wrth ei enau i weiddi.

"Help! Help!" Crwydrodd y llais ymhell drwy'r niwl, ac o ochr arall yr hafn islaw daeth gwatwar carreg-ateb. Ymun- odd Gwyn yn y cri, a safodd y ddau'n gwrando'n astud.

"Clyw, Llew!"

"Ia, fachgan, mae 'na rywun wedi'n clywad ni."

O rywle'n weddol agos deuai "Ohoi!" mewn llais dyn, a daliodd y ddau fachgen i alw i arwain eu hachubydd atynt. Cyn hir ysgydwai'r ci Tos ei gynffon arnynt, gan droi ymaith wedyn i gyfarth am ei feistr. Ymhen ennyd camodd y bugail fel cawr allan o'r niwl.

"Lwc imi'ch dilyn chi," meddai. "Yr oeddwn i'n aros wrth y Graig Lwyd, rhag ofn."

"Gwyn yn methu cerddad," eglurodd Llew. "Rhwbath ar 'i droed o."

Cymerodd y dyn Gwyn ar ei gefn ac i ffwrdd â hwy. Yr oeddynt allan o'r niwl yn fuan, ond nid arhosodd y bugail nes cyrraedd y ffordd fawr.

"Pum-munud bach 'rŵan, hogia'," meddai yno, a chymerodd y tri ohonynt gegaid o ddŵr o'r nant cyn eistedd am orig ar fin y ffordd.

"Wel, 'oedd 'na rywun yn y gwaith?"

"Oedd, y Manijar," atebodd Llew.