Tudalen:Chwalfa.djvu/233

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon




✱ Wedi Tair Blynedd ✱


AETHAI gwanwyn a haf a hydref arall heibio. Gorweddai niwl oer Rhagfyr dros y mynyddoedd a'r bryniau, gan eu cuddio hwy a'u heira fel pe na byddent. Prin yr oedd deilen, hyd yn oed ddeilen grin, ar lwyn wedi hyrddwynt dechrau'r mis.

Ymsythodd y dyn a weithiai ar ochr y ffordd, ac yna pwysodd ar ei raw i edmygu'r ymyl dwt a dorasai i'r glaswellt mwsoglyd wrth fôn y clawdd. Go lew, wir, ac ystyried ei fod yn newydd i'r gwaith. Trawodd ei raw ar ei ferfa a gwthio honno a'i llwyth o fan frigau a chrinddail pydredig drwy adwy yn y clawdd. Hm, meddyliodd wrth dywallt y dail meirwon i gysgod y wal, ond rhyw ochwyl diddiolch oedd hwn. 'Rŵan, y ffordd heb odid ddeilen arni: heno efallai, corwynt yn chwyrlio holl grinddail y greadigaeth o'u cuddfannau iddi: yfory, rhyw deithiwr cecrus yn holi beth yn y byd a wnâi gweision y Cyngor Plwy' â'u dyddiau.

Canodd corn y chwarel, corn pedwar, a ryddhâi'r dynion o'u gwaith yr adeg hon o'r flwyddyn; a'i ryddhau yntau hefyd. Rhoes y dyn ei frwsh a'i gaib a'i raw yn y ferfa a chychwynnodd i lawr y cwm. Cyn hir daeth at dyddyn bychan, gwyn ar ochr y ffordd, a gwthiodd ei ferfa i fyny'r llwybr wrth ei dalcen: yno, tu ôl i'r beudy, y cadwai ei arfau dros nos. Yna, a'i sach tros ei war, ymlaen ag ef yn araf tua'r pentref. Yn araf, er mwyn rhoi amser i'r fyddin o chwarelwyr fynd tuag adref o'i flaen.

Pan ddaeth ati, yr oedd y lôn a arweiniai i'r chwarel yn wag. Na, draw yn ei phellter o dan y coed ymlusgai rhyw bererin llesg. Yr hen Ishmael Jones? Ia—yr olaf un, fel arfer. Chwifiodd y dyn ei law arno cyn cyflymu'i gamau. Pan gyrhaeddodd waelod Tan-y-bryn, gwelai Harri Rags yn gwthio'i goits fach i fyny'r allt, ac yn gollwng rhai o'i drysorau hyd y ffordd.