Tudalen:Chwalfa.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

peth,' meddwn i wrthyf fy hun, 'rhyw hunlla' y bydda' i'n deffro ohono fo mewn munud.' Mi godis at y ffenast', ac mi—welwn yr on i'n mynd i ddeud mi welwn ddynion,' ond fe fasa'r gair yn colli'i ystyr am byth pe bawn i'n 'i ddefnyddio fo amdanyn' nhw—mi welwn rai ar ffurf dynion yn brysio tua'r chwaral. 'Roedd sŵn 'u traed nhw ar y ffordd fel morthwylion y Fall yn curo hoelion i arch pob egwyddor, pob onestrwydd, pob tegwch, pob anrhydedd. Mi es i'n hen hen ddyn mewn ychydig eiliada', yno wrth y ffenast' a'r bora'n llwyd ac oer tu allan." Yr oedd Robert Williams ar fin dagrau, ond fe ymsythodd yn sydyn, gan edrych o amgylch y gynulleidfa. "Chi ddynion ifanc," meddai, "peidiwch â gadael i hyn wneud i chi golli ffydd yn eich cyd—ddynion. Mae 'na ryw dri chant o Fradwyr, rhai sy wedi pardduo'u cartrefi a'u hardal ac enw da chwarelwyr Cymru, rhai y mae'u hanwyliaid yn yr hen fynwant acw yn trio codi o'u bedda' i'w ffieiddio nhw. Ond y mae 'na saith waith hynny o wyr sy'n sefyll yn gadarn ac eofn a diwyro, yn barod i aberthu a dioddef i'r eithaf er mwyn . . . Er mwyn beth, hogia'? Er mwyn cyfiawnder a chwarae—teg. Er mwyn yr hen a'r gwan yn eu plith. Er mwyn lladd annhegwch a thrais a gormes. Ac er mwyn y dyfodol. 'Ydach chi'n benderfynol o sefyll hefo nhw?"

"Ydan!" gwaeddodd lleisiau chwyrn o bob rhan o'r Neuadd.

"Nes dwyn barn i fuddugoliaeth?"

"Ydan! I'r diwadd un!"

"Costied a gostio?"

"Costied a gostio! "

"Mi soniais i am gathod yn y cefn," sylwodd Robert Williams. "Mae i gath dair o nodweddion, wchi. Yn y lle cynta', y mae hi'n ffals. Yn yr ail le, y mae hi'n wan—felcath! Yn y trydydd lle, y mae ganddi hi gynffon . . ."

Derbyniwyd y sylwadau â chymeradwyaeth a chwerthin uchel, a gwelai Llew fod yr hen Ishmael Jones wrth ei ochr yn mwynhau'r digrifwch cystal â neb, er na chlywsai ef air o'r ffraethineb.

Gorffennodd y Cadeirydd ei araith ar nodyn dwys.

"Yr ydw' i'n caru'r hen ardal 'ma," meddai, "'i phobol, 'i phentrefi, 'i llechwedda', 'i mynyddoedd, 'i holl hanas hi. Mae hi wedi magu dynion o gymeriad ac egwyddor, gwŷr