Tudalen:Chwalfa.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Enillodd y geiriau gymeradwyaeth a bloeddio a churo traed byddarol, a phenderfynodd yr hen William Parri ddiweddu'i araith yn y fan honno ac eistedd yn fuddugoliaethus. Rhoes rhywun bwniad yn ei ochr i'w atgoffa fod ganddo benderfyniad i'w eilio, a neidiodd yntau ar ei draed.

"Yr ydw' i'n eilio'r cynigiad â'm holl galon," gwaeddodd fel y darfyddai'r sŵn, " ac yn . . ." Ond boddwyd y gweddill gan hwrdd arall o gymeradwyaeth, a bu'n ddigon call i eistedd yn derfynol y tro hwn.

"Mae'r penderfyniad," meddai'r Cadeirydd pan ddaeth gosteg," wedi'i gynnig a’i eilio. 'Oes 'na rywun a hoffai siarad yn 'i erbyn o ?

"Nac oes!"

Ac nid oedd neb. Ond gwyddai Robert Williams fod amryw yn dyheu am siarad trosto, yn eu plith yr hen Ifan Tomos, cawr o ddyn a fu'n ymladdwr ffyrnig yn ei ddydd ac a âi o gwmpas yr ardal i honni y gallai ef, ond iddo gael ei gefn at y wal, lorio unrhyw ddwsin o'r Bradwyr.

"Y mae'r amsar yn rhedag ymlaen," meddai'r Cadeirydd, "a chan rai ohonoch chi ffordd bell adra'. Cyn imi roi'r penderfyniad i'r cyfarfod, mi hoffwn i'ch atgoffa chi o'r rhybudd a roddodd Edward Ifans inni. Os oes rhai ohonoch chi'n gwanhau, yn ansicir eich meddwl, peidiwch â phleidleisio dros y penderfyniad hwn. Ystyriwch be' mae o'n olygu, y brwydro a'r cyni a'r aberthu sy'n debyg o fod o'n blaen ni. Ystyriwch yn dawal a dwys." Arhosodd ennyd, gan roi cyfle iddynt feddwl mewn tawelwch. "A 'rwan, pawb sy dros y penderfyniad . . .

Ni welai Llew un na chodai'i law ar unwaith.

"Pawb sydd yn erbyn . . .

Nid oedd un, a thorrodd taran o gymeradwyaeth drwy'r lle.

"Mi orffennwn y cyfarfod . . . " Ond torrodd llais ar draws y Cadeirydd.

"Yr ydw' i'n cynnig ein bod ni'n cal gorymdaith a chwarfod nos Sadwrn nesa' eto," gwaeddodd rhywun, a chytunodd y dorf drwy guro dwylo'n frwd.

"O'r gora'," meddai Robert Williams. "Yr un lle a'r un amsar. A 'fydda' fo ddim yn syniad drwg 'taem ni'n cynnal cyfarfod fel hwn bob nos Sadwrn i gadw'n hysbryd i fyny ac i roi'r newyddion i'n gilydd ac i wrando ar areithia'. Mi