Tudalen:Chwalfa.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

imi'ch clywad chi'n sôn cymaint amdani hi, mae'n biti gadal iddi fod yn segur, ond ydi?"

"Dos! Dos cyn imi . . . "

Nid oedd y geiriau'n fawr mwy na sibrwd bloesg, a chrynai gwefusau Edward Ifans. Daliai ei ddwylo anesmwyth wrth ei ochr, a chododd ei lygaid tua'r nenfwd fel petai'n deisyf am nerth i ymatal rhag taro'r dyn. Yr oedd Ifor yn ffodus nad oedd Dic Bugail yn agos.

Clywodd Megan sŵn traed herfeiddiol Ifor yn dringo i'r llofft, a daeth i mewn i'r gegin at ei thad.

"Be' sy wedi digwydd, Tada?"

"'Roeddat ti'n iawn, ond oeddat-ynglŷn â'r ddiod yn y 'Snowdon Arms'?"

"Lle mae Ifor? "

"Yn y llofft, yn hel 'i betha' at 'i gilydd." "Ond . . . O, Tada!" Yr oedd ei llygaid yn

Yr oedd ei llygaid yn llawn dagrau. "Mae'n ddrwg calon gin' i am hyn, Megan fach. Ond 'does 'na'r un Bradwr i aros yn y tŷ yma.'

Yn ffwndrus a pheiriannol, fel un mewn breuddwyd, tynnodd Megan ei barclod a'i blygu a'i roi yn nrôr y dresal. Gwyliodd ei thad hi heb ddweud gair, ond â'i galon yn curo'n wyllt o'i fewn a'r pryder fel niwl tros ei ymennydd. Llithrodd y gair 'gwrthodedig' i'w feddwl, ac ni allai yn ei fyw ei ymlid ymaith Nid gair ydoedd ond llysnafedd yn ymnyddu ac ymwingo tu ôl i'w lygaid, yn llusgo'n wyrdd ac aflan tros y ferch a'r dresal a phopeth yr edrychai arno.

"Megan?"

Yr oedd hi ar ei ffordd tua'r drws i'r grisiau.

"Megan fach? "

Ond nid arhosodd, ac ymhen ennyd clywai ef ei feddwl niwlog yn cyfrif ei chamau araf ar y grisiau. O'r llofft uwch ben deuai llais uchel ac ymffrostgar Ifor yn canu, " Merch y Cadben."

Daeth Martha Ifans a Dan i mewn o'r drws nesaf.

"Fe fu raid iddi hi gael codi hefo Idris wedi'r cwbwl," meddai hi.

"Kate?" gofynnodd ei gŵr.

"Ia. Mi aeth yn ôl i'w gwely wedyn, ond 'chysgodd hi ddim. 'Roedd hi'n meddwl amdano fo yn yr hen waith glo 'na, meddai hi. Beth petai o'n landio mewn lodjins sâl a budur? Neu 'n mynd yn wael yno a neb yn barod i ofalu