Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a phaid ychwaith a'i wario yn unig er dy bleser. Eithr cyfrana i'r tlawd, i'r weddw a'r amddifad, ac i rai bychain Crist, ac Efe a'th wobrwya yn helaeth."

Y Dewr a'r Llwfr.

Dygwyddodd unwaith i ddau fachgen mewn ysgol ddyddiol, o'r enw John a Joseph, ymrafaelio â'u gilydd, pryd y darfu i'r rhai gwaethaf o'u cydysgolorion wneud eu goreu i gael ganddynt ymladd. Yr oedd John yn barod i dynu ei siaced yn y fan; ond ni wnai Joseph ymladd ar un cyfrif.

Clywodd yr Athraw am y dygwyddiad, a galwodd ato y cyntaf, ac meddai wrtho, "John, pa reswm a ellwch chwi roddi dros fod eisieu ymladd a Joseph?"

Atebai John, "Am y bydd i'r plant fy ngalw yn gachgi os gwrthodaf."

"O, ai ê— gwell genych felly wneyd yr hyn sydd o'i le, na chael eich galw yn gachgi? John, yr wyf yn cywilyddio drosoch."

Yna galwodd yr Athraw ar y llall, ac meddai wrtho, "Joseph, pa reswm a ellwch chwi roddi dios wrthod ymladd â John?"