Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y dydd canlynol aeth rhai o fechgyn yr ysgol i ymdrochi yn yr afon, ac yn eu plith yr oedd John a Joseph. Cyn bod o honynt yn hir yn y dwfr, aeth John i le dwfn, a chan na allai nofio, diamheu mai boddi a wnaethai, oni bai i Joseph, yr hwn oedd yn nofiwr da, neidio i mewn i'w achub. Gafaelodd yn mraich ei gyfaill, a thynodd ef allan yn ddioed.

Os bu i Joseph amlygu gwroldeb canmoladwy yn amgylchiad y tân, wele brawf adnewyddol o hyn i feddyliau ei gymdeithion yn ngwaredigaeth ei gyfaill rhag boddi.

Ar eu dychweliad i'r ysgol, Joseph a groesawyd a banllefau o gymeradwyaeth. Ychydig ddyddiau ar ol hyn, dywedai yr Athraw wrth gyfarch y plant, "Bydded i chwi gymeryd addysg oddiwrth ymddygiad Joseph, fel y galloch wahaniaethu rhwng gwag-ymffrost a gwir ddewrder. Y mae ef wedi ymddwyn yn deilwng trwy fyned trwy ddwfr a thân er mwyn eraill. Cofiwch mai hwnw yw y gwir ddewr, yr hwn a feiddia wneud yr hyn sydd iawn, er cael ei ddifenwi am hyny; tra y mae yr hwn a esgeulusa gyflawni yr hyn sydd yn ei le rhag ofn cael ei watwar, yn ei galon yn gachgi."