Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Daw i'r gorllewin yn yr hwyr,
Ac yno cwrdd â'r haul,
Fe rydd ei wisg oreu am dano'n y fan,
Yn felyn fel aur, ac yn goch fel y tân;
Ymddengys yn hapus a difyr ei ran,
Heb ofal, na thafferth, na thraul."


Y FAM.

"Dy nôd, fy mhlentyn, yw cael byw
Yn ddiog gwmwl uwch y byd;
Ond cofia, er nad yw ei oes ef yn faith,
Mae ganddo ei orchwyl, a gwna ei holl waith;
A dysg y wers hon i ti ar dy daith,—
Bydd ddiwyd a diddrwg o hyd.

Mae'n hofian fry, fy mhlentyn mwyn,
Gan ddiwyd weithio bob rhyw awr:
I'r teithiwr blinderus yn mhoethder y dydd
Ei gysgod caredig yn noddfa a fydd;
Neu ar y tir sychllyd fe ddisgyn yn rhydd
Yn ffrwythlon gawodydd i lawr.

Y cwmwl hardd, fy mhlentyn hoff,
Yn wŷn ei liw uwchlaw y byd;
Ac yn yr hwyr welir mewn gwisg mwy rhagorol,
Yn borphor ei liw, a'i wenau yn siriol,
Nid yw ei holl wychder, fy mab, ond benthyciol,
Yr haul yw ei harddwch o hyd.