Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y Llew ar y Ffordd.

GAN DR. ALDEN.

"OES, y mae llew ar y ffordd yn wastadol,"meddai Mr. Hall wrth foneddwr gyda'r hwn yr oedd yn ymddyddan yn y parlwr. Daeth ei fab Justin i mewn ar y pryd. Clywodd sylw ei dad, ond yn ei fyw nis gallai ddeall ei feddwl. Yr oedd wedi darllen am lewod yn fynych, a theimlai ddyddordeb mawr yn eu hanes, fel y gwna plant yn gyffredin, Buasai yn cerdded ymhellach i weled llew nag un creadur arall.

Hiraethai yn fawr gael gwybod at bwy y cyfeiriai ei dad yn y sylw a wnaeth, ond ataliodd rhag gofyn iddo tra yr ydoedd yn siarad a'r boneddwr. Buasai rhai bechgyn mor anfoesgar a gofyn ar draws yr ymddyddan, "Am bwy yr ydych chwi yn siarad?" Ond addysgwyd Justin i ymddwyn yn amgenach, yn gystal a bod syniad lled gywir am weddeidd-dra yn reddfol yn ei natur. Felly, efe a eisteddodd yn llonydd, gan obeithio y clywai rhywbeth a'i galluogai gael allan yr hyn a hoffai wybod. Yn y cyffredin arferai feddwl drosto ei hun, yn lle trafferthu o'i gydnabod â chwestiynau diddiwedd. Yr oodd hyn yn elfen ganmoladwy yn ei nodweddiad.