Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llwydion, ei llygaid yn pylu, a'i gwaed yn fferu yn mhenau ei bysedd teneuon.

Gweddw ydoedd hi, a Roger oedd ei hunig a'i hanwyl blentyn. Arferai ei gymeryd bob nos i'w hystafell, a thra yr eisteddai ef ar ei glin, neu y penliniai wrth ei hochr, adroddai hithau iddo ran o'r Gair Santaidd, neu ynte hanes y dynion doeth a da a sonir am danynt yn y Beibl. Yr oedd wedi bod yn wan ei hiechyd er's blynyddau, ond nid yn rhy wan i ddysgu i Roger ei adnod a gwrando ei bader.

"Tewch, tewch," meddai gwraig a safai wrth erchwyn y gwely, "y mae eich anwyl fam yn rhy sali wrando eich pader heno." _ A chan nesu ato, a gafael yn dirion yn ei law, fel am ei gymeryd o'r ystafell, dywedai wrtho, "Gwnaf fi eich rhoi yn y gwely heno." Ar hyn dechreuodd yntau ocheneidio fel ar dori ei galon.

"Yn wir nid alla'i ddim myn'd i'r gwely heb ddweud fy mhader."

Clywyd y trwst gan y fam, ac er ei bod yn ddi- sylw o bob peth o'i hamgylch, darfu i lais ei hanwyl blentyn ei deffroi o'i dideimladrwydd, a chan droi at gyfeilles dymunodd arni ei ddwyn ati, a'i roi i orwedd yn ei mynwes. Gwnaed felly. Ond O! y