HEN GYFREITHIWR.
EITHA rôg, fe aeth i'r rhwyd,—hen ewach
Annuwiol a gladdwyd;
O Fadog hwn a fudwyd
I'r un lle â'r twrne Llwyd.
Tynnu'r diafl drwy'r tân a'r dŵr,—a'i osod
Yn isa'n y pentwr;
Ar ei gefn rhoi llawer gŵr
Frathodd yr hen gyfreithiwr.
Ymroi i boen marw a byw,—annuw
Ei enaid yn nistryw;
Enwog oedd,—beth bynnag yw,—
Truan—nid twrne ydyw.
Yn y llys tu draw i'r llen,—ni fedd ef
Fwy o ddawn na meipen;
Ac yn y dirfawr gynnen,
Mae'n bod heb ddim yn ei ben.
Y RHEW AR OL HIN WLEB A CHYNNES.
O! REW distŵr, deuaist ti—i roi taw
Ar wawd tywydd digri';
Nid gaeaf na haf oedd hi,
'Roedd rhy'wyr iddi rewi.
"GWELL CI BYW NA LLEW MARW."—Dihareb.
O! mor wael os marw yw—y llew mawr
Ni all mwy wneud distryw;
I wlad, mwy perigl ydyw
Chwannen fach a honno'n fyw!
Y GATH DDU A GWYN.
CRIPIO a rhwygo'r hogyn,—torri llestr
A lladd yr aderyn;
Ac yfed y llaeth wedyn
Yw gwaith y gath ddu a gwyn.