Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y MABINOGION.

Dyma i ddechreu ychydig ddetholioa o ben ystoriau a adroddid gan yr hen Gymry gynt, ac a drosglwyddwyd i lawr o dad i fab a man i ferch hyd nes eu hysgrifennu yn "Llyfr Coch Hergest" rywbryd yn y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes dim rhyfeddach a mwy dymunol erioed wedi ei ysgrifennu na'r hen hanesion hyn, a fy anhawsder i ydyw gwybod pa rannau i'w pigo allan gan ddifyred a thlysed yr oll o honynt.

Mae Gwenogfryn Evans wedi cyhoeddi rhai o'r Mabinogion mewn llyfr destlus hanner coron, fel y maent i'w cael yn yr hen lawysgrifau, a J. M. Edwards (Hughes a'i Fab), wedi troi y pedair caingc hynaf, Pwyll, Branwen Ferch Llyr, Manawyddan Fab Lłyr, Math Fab Mathonwy,—i Gymraeg diweddar mewn llyfr bychan hardd o bris swllt.

Cedwais mor agos ag y medrwn at iaith a llythyren "Llyfr Goch Hergest" yn y dyfyniadau, ond rhaid oedd newid tipyn er mwyn eu gwneud yn rhwydd eglur.