Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

WILIAM MORGAN.

Fel cyfieithydd yr holl Feibl i'r Gymraeg yr anwylir enw Wiliam Morgan, a gweddus iawn oedd codi cofadail iddo, ac yscrifennu ei hanes yn fanwl ar dri chan mlwydd y Beibl yn yr iaith Gymraeg. Daeth yr argraffiad o'r holl Y'scrythur Lån allan yn 1588,—blwyddyn fawr gorchfygu llynges Yspaen a gallu y Påb,

Nid Wiliam Morgan oedd cyfieithydd cyntaf yr Yscrythur i'n iaith ni. Credir fod gan yr hen Gymry ran—gyfieithiad o hono mewn yscrifen: daeth cyfieithiad Wiliam Salsbri, cymydog Wiliam Morgan o'r Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Gyffredin allan yn 1567, mewn Cymraeg lled afrosgo ac esgymiog. Yr oedd y Beibl yn llaw y Saeson yn gyffredin erbyn yr adeg hon, canys ymddangosodd y Testament Newydd wedi ei droi i'r Saesneg gan Wiliam Tyndal mor foreu a 1526, a bu aml argraffiad o hono gan fawr awydd y werin am wybodaeth yscrythurol. Daeth yr holl Feibl, sef Beibl Miles Coverdale, allan yn 1535, dan awdurdod y Goron, ac yn 1560 wele gyfieithiad arall o'r Beibl, sef Beibl Geneva, gan y Cristnogion Seisnig aeth ar ffo i Geneva—cartre Calfiniaeth rhag creulon lidiog erledigaeth y Frenhines waedlyd Mari.

Ond 1588 ydyw'r flwyddyn fawr yn hanes cyfieithiad y Beibl Cymraeg, a fel hyn y mae ei deiti:

Y Beibl Cyssegr-Lân, Sef yr Hen Destament a'r Newydd
Imprinted at London by the Deputies of Christopher Barker,
Printers to the Queen's most Excellent Majestie.
1588."

Ganwyd Wiliam Morgan tua 1547, yn y Wybrant,—lle tlws, rhamantus ar gyffiniau plwyfi Penmachno a Dolyddelen yn Nant Conwy,―lle oedd yn nodedig am nifer o ddynion dyscedig a fagwyd eisoes ynddynt. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Ioan Sant yng Nghaergrawnt, lle y graddiodd yn D.D., ac yn 1575 fe'i gwelir yn ficer y Trallwm. Bu yno am flynyddoedd yn gweithio